Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 19 Mehefin 2017
Amser: 14.00 -
16.59
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4112
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Rory Farrelly, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Mark Griffiths, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Karen Gully, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Judy Henley, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Elen Jones, Fferylliaeth Gymunedol Cymru Suzanne Scott-Thomas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Carol Shillabeer, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Judith Vincent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Cheryl Way, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Allison Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau gan Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
1.3 Datganodd Lee Waters AC fuddiant yn sgil y ffaith bod ei wraig yn cael ei chyflogi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf (Eitem 4).
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol ynghylch yr heriau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu yn sgil y broses ddigideiddio, ac i roi gwybod iddi fod y Pwyllgor yn dymuno trafod y mater hwn â hi y tro nesaf y bydd yn dod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'i ymchwiliad i reoli meddyginiaethau: Judy Henley, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Contractwyr, Fferylliaeth Gymunedol Cymru; Mark Griffiths, Cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru; Elen Jones, Arweinydd Practis a Pholisi, Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru; a Cheryl Way, Aelod o Fwrdd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Swyddog Arweiniol Cenedlaethol Rheoli Fferylliaeth a Meddyginiaethau, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru).
3.2 Nododd y Pwyllgor fod Elen Jones yn bresennol yn lle Mair Davies, Cyfarwyddwr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, yn sgil ei salwch.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y tystion a ganlyn fel rhan o'i ymchwiliad i reoli meddyginiaethau: Allison Williams, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; Suzanne Scott-Thomas, Prif Fferyllydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; yr Athro Rory Farrelly, Prif Swyddog Gweithredu Dros Dro / Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Nyrsio a Phrofiad y Claf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Judith Vincent, Cyfarwyddwr Clinigol Rheoli Fferylliaeth a Meddyginiaethau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg; Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys; a Karen Gully, Cyfarwyddwr Meddygol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
4.2 Cytunodd Judith Vincent i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y gwaith y mae'r Athro Routledge yn ei hwyluso gydag arbenigwyr ynghylch derbyniadau sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau yng nghyd-destun diogelwch cleifion.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.